Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu

Yn y podlediad mabwysiadu hwn, mae grŵp o fabwysiadwyr yn siarad â'i gilydd am eu profiadau - o'r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu.Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y recordiad ond o fewn eiliadau bydd fel gwrando ar hen ffrindiau'n siarad. Maen nhw'n chwerthin gyda'i gilydd, maen nhw'n crio gyda'i gilydd.I ddarganfod mwy am fabwysiadu gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gallwch:Ddilyn ni @nas_cymru a @nationaladoptionserviceCysylltwch â ni adoptcymru.com

http://adoptcymru.com/podlediad

subscribe
share






Cariad a Thrawma


Ydy cariad yn gallu gorchfygu effaith trawma? Sut mae trawma yn amlygu ei hun mewn plentyn mabwysiedig? Pa gymorth a chynhaliaeth sydd ar gael i deuluoedd?

Yn y bennod hon ry’n ni’n trafod effaith hir-dymor trawma yn mywyd cynnar plentyn sydd wedi mabwysiadu, y modd mae hyn yn cael ei drafod yn ystod y broses fabwysiadu a’r modd mae ein rhieni yn delio gydag e o dydd i ddydd wrth rianta.

Fe wnawn ni glywed gan Rhys, Gwawr a Rachael am ddull rhianta mewn modd therapiwtig. Mae Rhys yn siarad am egwyddorion PACE – Playfulness, Acceptance, Curiosity and Empathy – tra bod Rachel a Gwawr yn ein hatgoffa ni bod pethau ddim wastad yn berffaith, ond bod cariad - a dweud sori - yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.


fyyd: Podcast Search Engine
share








 November 16, 2022  31m