Yn yr ail bennod, mae ein mabwysiadwyr yn trafod eu profiadau o gael eu hasesu a’r broses gymeradwyo. Maen nhw'n sôn am y pwysigrwydd o sefydlu perthynas gadarn gyda’ch gweithiwr
cymdeithasol- a pheidio mynd mewn panig i lanhau'r tŷ! Bydd y sgwrs hefyd yn troi at rai o’r sialensiau gawson nhw o geisio cyflawni’r broses trwy gyfrwng y Gymraeg.