Gesamtlänge aller Episoden: 5 hours 39 minutes
Yn y bennod olaf arbennig hon, ry'n ni'n clywed o lygad y ffynnon gan bobl ifanc wedi eu mabwysiadu. Y bobl ifanc piau hi! Ydyn, maen nhw am ddweud eu dweud! Mae Mimi, Sarah a Seren oll yn rhan o grwpiau Connected, sy'n cael eu rhedeg gan Adoption UK...
Pwy sy’n gallu mabwysiadu? Ydw i’n gallu mabwysiadu os dwi mewn cwpwl un rhyw? Neu yn sengl? Neu o ddiwylliant arbennig? Yn y bennod hon ry’ ni'n ceisio cywiro'r camsyniadau camargraff sydd gan rai am bwy sy’n gallu gwneud cais i fabwysiadu...
Beth mae bywyd ysgol yn meddwl i blentyn mabwysiedig? Sut mae sicrhau bod eich plentyn yn cael y profiad gorau o fyd addysg? Yn y bennod hon ry’n ni’n dod i ddeall pa mor gyffredin yw Angenion Dysgu Ychwanegol mewn plant wedi eu mabwysiadu....
Ydy cariad yn gallu gorchfygu effaith trawma? Sut mae trawma yn amlygu ei hun mewn plentyn mabwysiedig? Pa gymorth a chynhaliaeth sydd ar gael i deuluoedd? Yn y bennod hon ry’n ni’n trafod effaith hir-dymor trawma yn mywyd cynnar plentyn sydd...
Sut mae cadw cysylltiad gyda theulu geni plentyn sydd wedi mabwysiadu? A sut mae estyn allan a chreu cysylltiadau gyda brodyr a chwiorydd plentyn, plant sydd erbyn hyn ar wasgar o bosib? Yn y bennod hon mae ein rhieni yn rhannu eu profiadau nhw...
Sut ‘ych chi’n dechrau meddwl am fabwysiadu plentyn? Beth yw’r broses y mae’n rhaid ichi fynd drwyddi a pha benderfyniadau anodd a chymhleth sy’n dilyn? Yn y bennod gyntaf hon o gyfres newydd mae tri rhiant o Gymru yn rhannu eu profiadau nhw o’r...
Yn y rhifyn hwn, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am y cymorth sydd ar gael ar ôl i'r broses baru gael ei chwblhau, a’r rôl y mae gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau mabwysiadu yn ei chwarae ym mywydau teuluoedd mabwysiedig.
Yn y bennod hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am sut wnaethon nhw ddatblygu perthynas glos gyda’u plant. Sut ydych chi’n sicrhau bod eich plentyn mabwysiedig yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo cariad, a pha mor hir cyn i chi wybod mae beth rydych chi’n...
4. Yn y bodlen hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am yr wythnos gyntaf treulio’n nhw gyda’u plant a’r realiti eu bod nhw bellach yn rhieni.
3. Mae'r bennod hon yn ymwneud ag un o rannau mwyaf emosiynol dwys y daith: paru plant â'u teuluoedd newydd. A oes y fath beth â'r ffit berffaith?